kowydd i forfydd gwedi ymadel a dd' ap gwylym
1 kariad ar ddyn anwadal
2 a fwriais i ofer sal
5 modd i kerais lednaiswawr
6 morfydd vn dydd enyd awr
7 ni fynai fynai forfydd fanwyl
8 i chary hwy och or hwyl
9 trevliais dalm trwy loes dylyn
10 o gerdd dda i gary r ddyn
19 trevliais hefyd nid byd bost
20 tefyrn meddgyrn gormoddgost
13 traws eiry gainwedd tros argae
14 trevliais a gefais o gae
17 trevliais gweyais yn gowir
18 defyrn gwin duw a farn gwir
15 trevliais nid fal gwr trylwyn
16 tlyssav or mav er i mwyn
11 trevliais wrth ofer gler glan
12 fodrwyav gwae fi drvan
21 perais o iowngais angerdd
22 dysgy achany i cherdd
23 ir gler hyd eitha Ceri
24 eiry man hoen er i mwyn hi
27 ni chefais eithr nych ofal
28 nid amod ym dim o dal
29 eithr fy i myned gweithred gwall
30 duwne ir eiry dan wr arall
31 yw gwneythyr nid llafyr lles
32 yn feichiog fy nyn faches
33 [364] pa fodd bynag yw noddi
34 y gwnaythbwyd ne/ir/ hydwyd hi
35 ai ogariad im gadv
36 diras farn ai o drais fv
37 yn gwcwallt salw ym galwant
38 wb or nad am wedd berw nant
39 rhai arydd rhyw arwyddion
40 im llaw gormodd braw im bron
41 llysgion gwell ym i llosgi
42 o gyll lwyth nid om gwall i
43 eraill arydd devnydd dig
44 am y tal ym het helig
45 morfydd ag nid om erfyn
46 heb awr serch a beris hyn
47 duw a ranno or diwedd
48 barn iawn rhof a gwawn i gwedd
dd' ap gwylym ai cant